Diweddariad 2024:

Rydym bellach yn canolbwyntio ar fancio lleisiau er mwyn sicrhau bod modd eu recordio cyn bod lleisiau unigolion yn dirywio yn ormodol. Gallwn drosglwyddo'r recordiadau hynny at bartner masnachol er mwyn eu creu llais Cymraeg personol sy'n gweithio ar ddyfeisiau AAC ac ar gyfrifiaduron a ffonau symudol.

Mae’r project hwn yn bartneriaeth rhwng y GIG ac Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr. Cafodd ei ariannu dan Gynllun Grant Technoleg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru ac  rhedodd hyd at Fawrth 31, 2018 fel project peilot.

Diben y project yw creu lleisiau synthetig personol i gleifion sydd ar fin colli eu gallu i siard o ganlyniad i gyflyrau megis Clefyd Niwronau Echddygol a Chanser y Gwddf.

Mae’r Uned Technolegau Iaith wedi creu llwyfan sy’n galluogi cleifion gyda chymorth therapyddion lleferydd i greu eu llais dilys eu hunain yn Gymraeg ac yn Saesneg. Fel arfer bydd therapyddion lleferydd yn cyfeirio cleifion at y ddarpariaeth, gyda’r cleifion yn llofnodi ffurflen gydsynio i alluogi’r project i storio’u llais a chreu llais synthetig ar eu cyfer.

Mae’r broses wedi’i seilio ar y we, gyda chleifion yn recordio testun sydd wedi’i ddarparu iddynt ar ffurf promptiau ar gyfer pob iaith. Maent wedyn yn medru cynhyrchu eu llais synthetig eu hun.

Er mwyn medru cyfathrebu ar lafar yn Gymraeg/Saesneg, Mae’r defnyddiwr yn teipio o fewn rhyngwyneb gwe a a’r rhyngwyneb gwe yn darllen y geiriau yn uchel gyda fersiwn synthetig o lais y defnyddiwr.

Ceir rhagor o fanylion yn y daflen wybodaeth a ddarperir gan eich therapydd lleferydd neu arbenigwr meddygol. Mae angen llenwi ffurflen cydsynio a chofrestru cyn medru defnyddio'r gwasanaeth hwn. Os nad ydych wedi cael eich cyfeirio gan eich therapydd lleferydd neu aelod arall o'r gwasanaeth iechyd, cysylltwch gyda ni yn uniongyrchol am gyfarwyddiadau pellach.

Dyma fideo bach sy'n esbonio sut y gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Os ydych chi eisiau cymryd rhan neu am wybod mwy am y project yn cysylltwch â Stefano Ghazzali (s.ghazzali@bangor.ac.uk)